Sunday, 27 December 2009

ROUGH GUIDE - Grahame Davies



Mae'n digwydd yn anorfod,
fel dwr yn dod o hyd i'w lefel,
ond bob tro yr agoraf lawlyfr teithio
'rwy'n hwylio heibio'r prifddinasoedd a'r golygfeydd,
ac yn tyrchu i stydoedd cefn diolwg y mynegai,
a chael fy mod yn Ffrainc, yn Llydaw;
yn Seland Newydd, Maori;
yn y Unol Daleithiau - yn dibynnu ar ba ran-
'rwy'n Navajo, Yn Cazun, neu'n ddu

Y fi yw'r Cymro Crwydr;
yn Iddew ymhob man.
Heblaw, wrth gwrs, am Israel.
Yno, 'wy'n Baleteiniad.

Mae'n rhyw fath o gymhlethdod, mae'n rhaid,
fy mod yn codi'r grachen ar fy psyche fel hyn.
Mi dybiaf weithiau sut beth a fyddai
i fynd i un o'r llefydd hyn
a jyst mwynhau.

Ond na, wrth grwydro cyfandiroedd y cyfrolau
yr un yw'r cwestiwn ym mhorthladd pb pennod:
"Dinas neis. 'Nawr blw nae'r geto?"

It happens inevitably,
like water finding its level:
evey time I open a trvel book,
I sail past the capitlal cities, the sights,
and dive straight into the backstreets of the index
to find that in France, Im Breton;
in New Zealand, Maori;
in the U.S.A.- depending on which part-
I'm Navajo, Cajun, or black.

I'm the wandering Welshman
I'm Jewish everywhere.
Except, of course, in Israel.
There, I'm Palestinian.

It's some kind of a complex, I know,
that makes me pick this scab on my psyche.
I wonder sometimes what it would be like
to go to these places
and just enjoy.

No, as I wander the continents of the guidebooks,
whatever chapter may be my destination,
the question's always the same when I arrive:
"Nice city. Now where's the ghetto?"
d